DOLGELLAU - Adroddiad o Arwerthiant Flynyddol Cymdeithas Defaid Mynydd Meirion
Home > Sales > Market Reports > DOLGELLAU - Adroddiad o Arwerthiant Flynyddol Cymdeithas Defaid Mynydd Meirion
𝗔𝗗𝗥𝗢𝗗𝗗𝗜𝗔𝗗 𝗔𝗥𝗪𝗘𝗥𝗧𝗛𝗜𝗔𝗡𝗧 𝗙𝗟𝗬𝗡𝗬𝗗𝗗𝗢𝗟 𝗢 𝗛𝗬𝗥𝗗𝗗𝗢𝗗 𝗠𝗬𝗡𝗬𝗗𝗗 𝗖𝗬𝗠𝗥𝗘𝗜𝗚 𝗦𝗜𝗥 𝗙𝗘𝗜𝗥𝗜𝗢𝗡𝗡𝗬𝗗𝗗 | 𝗠𝗘𝗜𝗥𝗜𝗢𝗡𝗡𝗬𝗗𝗗 𝗔𝗡𝗡𝗨𝗔𝗟 𝗦𝗔𝗟𝗘 𝗢𝗙 𝗪𝗘𝗟𝗦𝗛 𝗠𝗢𝗨𝗡𝗧𝗔𝗜𝗡 𝗥𝗔𝗠𝗦 𝗥𝗘𝗣𝗢𝗥𝗧 𝟭𝟰/𝟭𝟬/𝟮𝟬𝟮𝟲
Diwrnod prysur a llawn bwrlwm yma yn marchnad Dolgellau heddiw ar gyfer arwerthiant flynyddol o Hyrddod Mynydd Cymreig Cymdeithas Defaid Mynydd Sir Feirionydd. Roedd safon yr hyrddod ar y diwrnod yn werth i’w gweld ac yn glôd i’r holl werthwyr. Cafodd y safon yma ei adlewyrchu ym mhrisiau y diwrnod gan sicrhau cyfartaledd o £1827 a chyfradd gwerthu o 95%.
Cofiwch am arwerthiant flynyddol o Hyrddod Mynydd Cymreig Cymdeithas Defaid Mynydd Maldwyn a Cheredigion ddydd Gwener yma am 1yp. Diolch am eich cefnogaeth parhaol
Another busy day full of buzz here at Dolgellau market for the annual sale of Welsh Mountain Rams on behalf of the Meirionnydd Welsh Mountain Sheep Society. The quality of rams on offer was a testament to all vendor and were well rewarded with strong trade throughout and secured a sale average of £1827 and an overall clearance of 95%.
We now look forward to Friday for Ceredigion and Maldwyn Welsh Mountain Sheep Society’s Annual sale of Welsh Mountain Rams at 1pm. Thank you for your continued support.
