Pwyllgor Blynyddol Farmers Marts (RG Jones) Cyf

Home > About > News > Pwyllgor Blynyddol Farmers Marts (RG Jones) Cyf

Pwyllgor Blynyddol Farmers Marts (RG Jones) Cyf

Nos Fercher, 4ydd o Fawrth, cynhaliwyd Pwyllgor Blynyddol cwmni Farmers Marts (RG Jones) Cyf yng Nghlwb Rygbi Dolgellau. Mynychwyd y cyfarfod gan nifer o gyfranddalwyr y Gymdeithas, dan arweiniad y Llywydd, R. Emlyn Roberts, Esgairgawr, Rhydymain.

Yn ystod y cyfarfod cyflwynwyd dwy ffon fugail i ddau gyn-aelod o Fwrdd y Cyfarwyddwyr, a oedd rhyngddynt wedi rhoi 50 mlynedd o wasanaeth i’r Gymdeithas. Derbyniodd Dafydd Roberts, Ddol Fach, Llanuwchllyn, a Dei Ellis, Ty Cerrig, Trawsfynydd, ffon fugail yr un. Cafodd y ffyn eu cerfio’n arbennig gan Glyn Jones, Y Bala, fel arwydd o ddiolchgarwch y Gymdeithas am eu hymroddiad a’u cefnogaeth dros y blynyddoedd.

Talodd Dafydd Roberts, Ddol Fach, air o ddiolch i’r Gymdeithas ac i gwmni Farmers Marts, a chafodd ei eiriau eu hategu gan Dei Ellis.

Diweddwyd y noson gyda paned a chacen gan y clwb Rygbi.

Yn y llun mae o’r chwith  i’r dde:-

Dafydd Roberts, Ddol Fach, Llanuwchllyn,

Emlyn Roberts, Llywydd Farmers Marts,

Dei Ellis, Ty Cerrig, Trawsfynydd.

 

 

 

 


All blogs